14 Hydref 2015
Ystafell Gynadledda 21 – Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Nick Ramsay (Cadeirydd)
2. Elin Jones AC
3. Dr Sarah Wright- Skin Care Cymru
4. Dr Hayley Hutchings- Prifysgol Abertawe
5. Dr Julie Peconi- Ysgol Feddygaeth Abertawe
6. Paul Thomas - Cadeirydd Skin Care Cymru
7. Rose Bell - Ymddiriedolwr Skin Care Cymru
8. Paul Hewitt - Novartis
9. Yr Athro Andrew Davies - Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
10. James Partridge - Changing Faces
11. Rob Vine - Trysorydd Skin Care Cymru
12. Jenny Hughes - Ymgynghorydd dermatoleg a chadeirydd grŵp dermatoleg Cymru gyfan
13. Deb Vine - Skin Care Cymru
14. Girish K Patel - Hywel Dda, dermatolegydd ymgynghorol
15. Sarah Griffiths-Little - Grŵp Cymorth Icthyosis
16. Valerie Loftus - Nyrsys Dermatoleg Prydain
17. Max Murison - Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol, Abertawe
18. Dave Hill, Betsi Cadwaladr
19. Avad Mughal, Dermatolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
20. Iain Whitaker, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
21. Caroline Lewis - Uwch Swyddog Polisi, Llywodraeth Cymru ar ran y Dirprwy Weinidog Iechyd
22. Yr Athro Keith Harding, Canolfan Arloesi Clwyfau Cymru
23. Dr Bhakri, Prifysgol Caerdydd
24. Dominic Urston, Cymdeithas Soriasis
25. Rachel Abbot – Cymrawd Dermatoleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ymddiheuriadau
Liz Allen, British Skin Camouflage
Kirsty Williams AC
Anita Ralli, Leo Pharma
Hamish Laing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Gwyliodd y grŵp stori ddigidol am glaf a gyflwynwyd i roi cefndir y drafodaeth. Mae rhagor o storïau am gleifion i’w gweld yn www.skincarecymru.org
Croesawodd Nick Ramsey bawb i’r cyfarfod ac esboniodd sut roedd grwpiau trawsbleidiol yn gweithredu.
Roedd Elin Jones AC a Kirsty Williams AC wedi cytuno i gyd-noddi’r grŵp â Nick Ramsay er mwyn ffurfio’r grŵp yn swyddogol.
Nick Ramsay (Cadeirydd)
Skin Care Cymru i ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol
Rhoddodd Dr Hayley Hutchings, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned Treialon Meddygol Abertawe a Dr Sarah Wright o Skin Care Cymru fraslun o nod Skin Care Cymru, sef dysgu rhagor am y gwir sefyllfa o ran y gofal eilaidd a’r cymorth seicolegol sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o gyflwr ar y croen.
Amlinellodd Dr Hayley Hutchings a Dr Sarah Wright y gwaith ymchwil roedd Skin Care Cymru yn ymgymryd ag ef. Maent wedi cysylltu â holl Fyrddau Iechyd Lleol Cymru i gael darlun gwell o’r gwasanaethau sydd ar gael drwy Gymru.
Yn anffodus, nid yw pob BILl wedi ymateb.
Mae'r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod problemau oherwydd bylchau mewn gwybodaeth.
Mae diffyg monitro safonedig ar draws y Byrddau Iechyd Lleol ac mae goblygiadau mawr ynghlwm wrth beidio â deall beth sy’n digwydd.
Mae rhai enghreifftiau o arfer da hefyd - ymgysylltu â meddygon teulu etc a dylid rhannu’r enghreifftiau hyn o arfer da a'u datblygu.
Bydd Skin Care Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Tachwedd
Clywodd y grŵp ddwy enghraifft o arloesi ym maes iechyd y croen yng Nghymru. Y naill ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a’r llall yn Abertawe.
Roedd y galw yn fwy na'r gallu drwy ardal y BILl, a drwy Gymru.
Amcangyfrifir bod dros 10% o gleifion allanol yn gleifion dermatoleg.
Amlinellwyd problemau gallu yn Hywel Dda a dulliau newydd o weithredu ym maes iechyd y croen.
Yr elfen gyntaf oedd hyfforddi Meddygon Teulu â Diddordeb Arbennig (GPwSI) a meithrin gallu a doniau ein meddygon yma yng Nghymru.
Sefydlwyd canolfan academaidd i feithrin gallu a denu ymgynghorwyr.
www.cardiff.ac.uk/research/cancer-stem-cell
Yr ail gam oedd gweithio gyda Macmillan i feithrin gallu drwy ariannu nyrsys dermatoleg ar y cyd.
Erbyn hyn mae gan Hywel Dda 5 nyrs dermatoleg Macmillan, un ym mhob ardal awdurdod lleol – ac un ychwanegol yng Nghaerfyrddin oherwydd bod y boblogaeth yn fwy, ac un ar gyfer holl ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.
Byddent yn hoffi cymryd yr un camau ym maes therapïau biolegol a systemig yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Mae'r dull newydd hwn o weithredu’n dileu’r angen i gleifion deithio. Bydd y tîm yn teithio i weld y cleifion. Mae’r meddygon teulu wedi’u hyfforddi i gynorthwyo’r cleifion, a’r nyrsys yw'r glud sy'n dal y cyfan at ei gilydd.
Mae Skin Care Cymru yn ystyried chwilio am bartner yn y diwydiant i’w cynorthwyo i gynyddu nifer y nyrsys i roi triniaethau biolegol a systemig. Caiff rhagor o wybodaeth ei rhannu yn y cyfarfod nesaf.
Cwestiynau’n ymwneud â dulliau ariannu a gweithio gyda Macmillan.
Cwestiynau’n ymwneud â meddygon teulu nad ydynt wedi’u hyfforddi yn y maes. Grymuso meddygon teulu i ehangu gwybodaeth yn y sector gofal sylfaenol.
A oes gwaith da yn mynd rhagddo mewn ardaloedd eraill yn y DU?
Mae arfer da mewn mannau eraill, ond mae’r model hwn wedi datblygu’n raddol ac, yn ôl Macmillan, mae model Hywel Dda yn arloesol ac yn enghraifft o arfer gorau – y cyntaf yn y DU, ac mae’n gobeithio y caiff ei ehangu.
Gofal secio-gymdeithasol i gleifion?
Bydd nyrsys Macmillan yn cynnal asesiad cyfannol o anghenion ac felly bydd cyfle i unrhyw un o nyrsys Skin Care Wales wneud hynny hefyd. Yna, bydd yn ofynnol i’r Byrddiau Iechyd Lleol ymdrin â’r anghenion a nodwyd.
Rhoddwyd cyflwyniad i’r gwaith laser sy'n mynd rhagddo
yn Abertawe.
Dangoswyd nifer o enghreifftiau o driniaeth laser a thrafodwyd y
gwahaniaeth rhwng llawdriniaeth a thriniaeth laser.
Trafodwyd cynorthwyo cleifion i ymdopi â chreithiau a’u pryderon ynglŷn â thirniaethau.
Trafodwyd gallu a lle’r oedd triniaethau ar gael.
Nid oedd digon o allu i ateb y galw
Cam i’w gymryd: Nick Ramsay i fynd i weld y Laser Deuocsid Carbon yn Abertawe
· Dr Jenny Hughes - Ymgynghorydd Dermatoleg a chadeirydd Grŵp Dermatoleg Cymru gyfan – rhoddodd fraslun o aelodaeth ac amcanion y Grŵp.
Mae’r Grŵp yn cynnwys holl ddermatolegwyr Cymru - hyfforddeion, ymgynghorwyr, cynrychiolydd nyrsys, cynrychiolydd meddygon teulu, ac aelodau academaidd.
Maent yn cefnogi ei gilydd ac yn rhannu arfer gorau.
Mae’r Grŵp yn adrodd i Bwyllgor Ymgynghorwyr Cymru a Llywodraeth Cymru
Mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn - bob mis Mawrth a mis Hydref.
Mae croeso i bobl eraill ymuno.
Mae’n anodd annog meddygon teulu i ymwneud â’r Grŵp
Bydd y Gweinidog yn ystyried y polisi dermatoleg yn y Flwyddyn Newydd.
Trafodwyd papur yng nghyfarfod Grŵp Meddygol Cymru Gyfan ym mis Gorffennaf, yn holi a oedd y Byrddau Iechyd Lleol yn dilyn safonau ac arfer proffesiynol.
Mae Dr Chris Jones, y Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol, hefyd yn trafod datblygu gwasanaethau gyda NSAG. Cynhaliwyd cyfarfod ac mae’r trafodaethau’n parhau.
Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i edrych ar ragor o gynlluniau cyflenwi.
Bydd cynlluniau gwasanaethau gofal yn cael eu cyhoeddi – byddant yn ystyried a allai’r rhaglen gynnwys dermatoleg
Mae’r ddeoniaeth wedi crybwyll na fyddai rbriodol darparu haglen hyfforddi drwy Gymru gyfan.
Sgwrs gyda’r Prif Swyddog Nyrsio i drafod nyrsio arbenigol - NSAG yn ystyried y bylchau o ran sgiliau yn y proffesiwn.
Adnoddau cyfyngedig - dim arian i fuddsoddi, gan y BILlau mae’r arian, ond mae modd paratoi cynlluniau.
System hysbyseg NHSWIS - awyddus i helpu yn y maes hwn – staff telefeddygol i helpu - am ymchwilio i’r hyn sy’n bosibl.
Penderfynwyd y dylid cynnal cyfarfod yn y Flwyddyn Newydd, ac y dylid gwahodd cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol i fod yn bresennol i amlinellu eu polisïau dermatoleg cyn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016.
Penderfynwyd y byddai Skin Care Cymru yn drafftio amcanion polisi y mae'n dymuno eu cymeradwyo a’u rhannu ymhlith y grŵp i gael eu sylwadau a’u syniadau.